Croeso

[column width=”2/3″ place=”first” ]

Rhaglen datblygiad personol, proffesiynol a sgiliau arwain uchel ei pharch ar gyfer arweinwyr ymchwil y dyfodol yng Nghymru yw Crwsibl Cymru.

Mae’r rhaglen, sydd wedi’i ariannu gan gonsortiwm o brifysgolion yng Nghymru, mewn partneriaeth รข Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, yn cefnogi arloesedd a ysbrydolir gan ymchwil a chydweithio rhyngddisgyblaethol yng Nghymru. Mae galw mawr am leoedd ar Grwsibl Cymru gan ymchwilwyr sy’n dechrau dangos rhagoriaeth yn eu meysydd.

Bob blwyddyn, dewisir 30 o ymchwilwyr i gymryd rhan mewn cyfres o weithdai preswyl neu ‘labordai sgiliau’ lle maent yn archwilio sut y gallant elwa ar weithio gydag ymchwilwyr o ddisgyblaethau eraill, sut i gynyddu effaith eu gwaith ymchwil, a sut i ddilyn gyrfaoedd ymchwil rhyngwladol yng Nghymru. Mae cyfranogwyr yn parhau i ddatblygu mentrau cydweithredol gyda’i gilydd y tu hwnt i’r rhaglen ffurfiol, ac mae rhwydwaith cyn-ymchwilwyr Crwsibl Cymru yn hwyluso cysylltiadau rhwng y gwahanol garfannau.

Enillodd Crwsibl Cymru Wobr Times Higher Education ar gyfer Cyfraniad Rhagorol at Ddatblygu Arweinyddiaeth yn 2013, a nododd y beirniaid ei fod yn cael ‘effaith bellgyrhaeddol ar agweddau ac ymddygiadau’.